Hi, you are logged in as , if you are not , please click here
You are shopping as , if this is not your email, please click here

CF301 Cyflwyniad i Brintio (2024/2025)

Info
Location
Contact
More Info

Course Information

CF301 Cyflwyniad i Brintio (2024/2025)

Fee Waiver

Diolch i gefnogaeth ariannol gan Medr trwy'r Cynllun Hepgor Ffioeddcaiff ddysgwyr a siaradwyr Cymraeg sy’n byw yng Nghymru (a sydd ddim yn astudio mewn prifysgol), astudio’r cwrs hwn am ddim.

I ddechrau eich cais, cwblhewch y ffurflen gais Hepgor Ffioedd: Ffurflen Gais Cynllun Hepgor Ffioedd Dysgu Gydol Oes (Blwyddyn Academaidd 2024 - 2025)

Lleoliad: Y Stiwdio Gelf, Y Tabernacl, Machynlleth

Dyddiadau: 10fed a’r 16eg Gorffennaf o 10am i 4pm

Mae’r cwrs hwn yn cynnig taith gynhwysfawr i chi o amgylch dulliau argraffu ‘relief’ ac ‘intaglio’ ac yn eich annog i ddatblygu technegau traddodiadol ac arbrofol.

Course Code

CF301 (2025)

Course Leader

Elin Crowley
Course Description

Mae’r cwrs hwn yn cynnig taith gynhwysfawr i chi o amgylch dulliau argraffu ‘relief’ ac ‘intaglio’ ac yn eich annog i ddatblygu technegau traddodiadol ac arbrofol.

Byddwn yn arbrofi gyda dulliau torlun leino a cholagraff a fydd yn cael eu hymarfer yn gyntaf mewn du a gwyn a'u datblygu mewn lliw.

Mae’r deunyddiau hanfodol yn cael eu darparu.

Manylion am y tiwtor, Elin Crowley

Gwneuthurwr printiau o Fachynlleth, Canolbarth Cymru yw Elin a arbenigodd mewn Gwneud Printiau ar ei Gradd BA Celfyddyd Gain yn UWIC, Howard Garden (2000-2003). 

Syrthiodd mewn cariad â'r grefft o wneud printiau; y gweisg, yr inciau, aroglau ystafell argraffu, y prosesau a'r technegau niferus y gellir eu dysgu, y broses ac ailadrodd rhywbeth nes i chi greu rhywbeth unigryw.   

Mae gan Elin ddiddordeb mewn darlunio tirweddau anhygoel Cymru, y bryniau, y mynyddoedd, y coed a’r bywyd gwyllt sy’n gwneud y dirwedd hon mor bwysig iddi. Mae hi'n archwilio'r cysylltiad sydd gennym ni â'r tir a sut mae'n ein siapio ni.   

Yn ddiweddar gorffennodd Elin ei MA mewn Celfyddyd Gain ym Mhrifysgol Aberystwyth a dyfarnwyd Rhagoriaeth iddi.

 

StartEndCourse Fee 
Fee Waiver
10/07/202516/07/2025

How would you rate your experience today?

How can we contact you?

What could we do better?

   Change Code