Hi, you are logged in as , if you are not , please click here
You are shopping as , if this is not your email, please click here

HL306W Cwrs Cynganeddu: Dechrau o'r Dechrau'n Deg

Info
Location
Contact
More Info

Course Information

HL306W Cwrs Cynganeddu: Dechrau o'r Dechrau'n Deg

Public

📢📢 CWRS gyda Ceri Wyn Jones AM DDIM📢📢 

Mae’r gynghanedd yn un i drysorau mawr y Gymraeg – a dyma dy gyfle i’w gwneud hi’n eiddo i ti. 

Diolch i gefnogaeth ariannol gan Medr trwy'r Cynllun Hepgor Ffioeddcaiff ddysgwyr a siaradwyr Cymraeg sy’n byw yng Nghymru (a sydd ddim yn astudio mewn prifysgol), astudio’r cwrs hwn am ddim.

I ddechrau eich cais, cwblhewch y ffurflen gais Hepgor Ffioedd: Ffurflen Gais Cynllun Hepgor Ffioedd Dysgu Gydol Oes (Blwyddyn Academaidd 2024 - 2025)

Nifer cyfyngedig felly'r cyntaf i'r felin....

Dyddiadau: 

Ebrill 9, 23, 30

Mai 7, 21, 28

Mehefin 4, 18, 25

Amser: Nos Fercher, 7yh - 8.30yh

 

Course Code

HL306W (2025)

Course Leader

Ceri Wyn Jones
Course Description

Am ganrifoedd roedd crefft y beirdd yng Nghymru yn cael ei galw'n ‘gyfrinach y beirdd’, ond nid cyfrinach yw hi heddiw! Bydd y cwrs hwn yn dy alluogi i ddysgu'r rheolau ac i wybod mwy am hanes a datblygiad y grefft. Nid dim ond system sy'n ateb cytseiniaid ac yn odli'r fewnol yw'r gynghanedd, ond dull o greu barddoniaeth sydd yr un mor berthnasol heddiw ag yr oedd hi ganrifoedd yn ôl. Beth well na chael hwyl yn adnabod crefft anhygoel sy'n gwbl unigryw i'r iaith Gymraeg?

Tyrd i ddysgu sut i gynganeddu dros gwrs o ddeg sesiwn byw, arlein, o hyfforddiant ymarferol gan y Prifardd a thiwtor profiadol, Ceri Wyn Jones.

Nid oes angen gwybodaeth flaenorol, dim ond awydd i ddysgu, gam wrth gam, hanfodion y grefft ac awydd hefyd i’w hymarfer.

StartEndCourse Fee 
Public
09/04/202525/06/2025£150.00

How would you rate your experience today?

How can we contact you?

What could we do better?

   Change Code