Hi, you are logged in as , if you are not , please click here
You are shopping as , if this is not your email, please click here

AL118E Ffotographiaeth: Y Gwyll a Goleuni'r Nos: Aberystywth - Rheilffordd Cwm Rheidol (2025/2026)

Info
Location
Contact
More Info

Course Information

AL118E Ffotographiaeth: Y Gwyll a Goleuni'r Nos: Aberystywth - Rheilffordd Cwm Rheidol (2025/2026)

Fee Waiver

Dull Dysgu: Wyneb yn Wyneb.

Nod y cwrs ymarferol hwn yw cyflwyno egwyddorion ffotograffiaeth ddigidol yn ystod cyfnod y gwyll a’r nos, gan roi gwybodaeth a dealltwriaeth i'r dysgwr o ddefnydd sylfaenol y camera er mwyn sicrhau lluniau o’r ansawdd uchaf. 

Course Code

AL118E (2026)

Course Leader

Dafydd Morgan
Course Description

Nod y cwrs ymarferol hwn yw cyflwyno egwyddorion ffotograffiaeth ddigidol yn ystod cyfnod y gwyll a’r nos, gan roi gwybodaeth a dealltwriaeth i'r dysgwr o ddefnydd sylfaenol y camera er mwyn sicrhau lluniau o’r ansawdd uchaf. 

Tra bydd agweddau sylfaenol ffotograffiaeth ddigidol yn cael eu cwmpasu (trin a chyflunio’r camera digidol, dewis lensys, datguddiad, cyfansoddiad a beirniadaeth delwedd), bydd y cwrs hwn yn canolbwyntio ar dynnu lluniau penodol yn ystod y nos a chyfnod y gwyll. 
Trwy sesiynau ymarferol, bydd dysgwr yn cael cyfle i arsylwi a thynnu lluniau mewn amrywiaeth o leoliadau. 

Yn agored i bawb o ddechreuwyr i arbenigwyr, mae'r cwrs hwn yn archwilio tynnu lluniau awyr y nos a’r gwyll tra'n ymgorffori natur. 

Bydd y dysgwr yn cael cyfle i arsylwi a thynnu lluniau yn Aberystywth (lleoliad) Rheilffordd Cwm Rheidol. 

Dyddiadau: Nos Sadwrn, 10fed a nos Sul, 11eg Hydref 2025, rhwng 7 yr hwyr a 1 y bore. 

Diolch i gefnogaeth ariannol gan Medr trwy'r Cynllun Hepgor Ffioedd, caiff ddysgwyr a siaradwyr Cymraeg sy’n byw yng Nghymru (a sydd ddim yn astudio mewn prifysgol), astudio’r cwrs hwn am ddim.

Oherwydd natur y cwrs, nifer cyfyngedig sydd ar gael felly y cyntaf i’r felin fydd hi!

I ddechrau eich cais, cwblhewch y ffurflen gais Hepgor Ffioedd: Ffurflen Gais Cynllun Hepgor Ffioedd Dysgu Gydol Oes (Blwyddyn Academaidd 2025/2026)

Unwaith y byddwch wedi llenwi’r ffurflen gais, anfonwch unrhyw ddogfennau ategol a phrawf o’ch cyfeiriad yng Nghymru i dysgu@aber.ac.uk.

StartEndCourse Fee 
Fee Waiver
10/10/202511/10/2025

How would you rate your experience today?

How can we contact you?

What could we do better?

   Change Code